Archwilwyr Coetir
Dyddiadau –
- 5 Ebrill GWERTHU ALLAN
- 3 Mai GWERTHU ALLAN
- 7 Mehefin GWERTHU ALLAN
- 2 Awst
- 6 Medi
- 4 Hydref
Lleoliad – Parc Gwledig Pen-bre
Amser - 09:30am – 11:00am
Oedran – 6-10 oed
Uchafswm maint grŵp - 12
Oes gennych chi angerdd dros yr awyr agored a natur? Ydych chi am ddysgu rhywbeth newydd? Ymunwch â'n dosbarthiadau archwilwyr coetir yn 2025. Rydym yn cynnal gweithgareddau gwahanol bob mis drwy gydol y flwyddyn am £10.00 y sesiwn yn unig.
Bydd y plant yn dysgu pob math o sgiliau newydd, yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, ac yn cwrdd â ffrindiau newydd.
Gallwch ymuno â ni ar gyfer un sesiwn neu'r sesiynau i gyd - chi sydd i benderfynu!
Bydd y plant yn cael eu gollwng a'u casglu ar ddiwedd y sesiwn, a byddant yng ngofal ceidwaid y parc.
Gwisgwch ar gyfer y tywydd, dewch â diod, eli haul ac ati.
5 Ebrill, Cwrdd yn y Ganolfan Ymwelwyr - blychau adar - Fel archwilwyr, byddwch yn chwilio am adar coetir ac yn adeiladu eich blwch adar eich hun naill ai i fynd ag ef adref gyda chi neu i'w osod yn y Parc Gwledig.
3 Mai, cwrdd ym maes parcio'r rheilffordd fechan – pilcota mewn pyllau - Archwiliwch ein pyllau a darganfod byd tanddwr, defnyddiwch eich rhwydi, ac ewch i gael golwg agosach a dysgu am y gwahanol anifeiliaid sy'n byw yn y pwll ac o'i gwmpas. Cwrdd yn y Ganolfan Ymwelwyr – sgiliau goroesi - ewch i grwydro yn y goedwig a chasglu'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch i adeiladu eich lloches oroesi eich hun ac i gynnau tân yn ddiogel. Dysgwch sgiliau gydol oes. A fyddwch yn cadw'ch hun yn sych ac yn gynnes?
7 Mehefin, cwrdd yn y Ganolfan Ymwelwyr – sgiliau goroesi - ewch i grwydro yn y goedwig a chasglu'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch i adeiladu eich lloches oroesi eich hun ac i gynnau tân yn ddiogel. Dysgwch sgiliau gydol oes. A fyddwch yn cadw'ch hun yn sych ac yn gynnes?
2 Awst, cwrdd yn Siop Fach y Traeth - Saffari ar Lan y Môr – Bydd yr archwilwyr yn darganfod traeth hardd Cefn Sidan. Byddwn yn edrych ar ba anifeiliaid sy'n byw yn y môr ac yma ar ein traeth ein hunain. Fel Ceidwaid Iau, byddwch yn dysgu gwybodaeth bwysig am ddiogelwch ar y traeth ac efallai'n creu eich darn celf eich hun yn y tywod. Peidiwch ag anghofio gwisgo'n addas ar gyfer y tywydd – eli haul, diodydd ac ati
6 Medi, cwrdd yn y Ganolfan Ymwelwyr - chwilota a choginio ar dân agored – bydd y Ceidwaid Iau yn chwilio am fwydydd gwyllt. Dysgwch beth sy'n ddiogel i'w fwyta a beth nad yw'n ddiogel. Dysgwch sut i goginio ar dân agored a rhowch gynnig ar ddanteithion blasus.
4 Hydref, cwrdd yn y Ganolfan Ymwelwyr - Gwesty trychfilod - rhowch gartref clyd i'r trychfilod a dewch draw i wneud eich gwesty trychfilod eich hun i fynd ag ef adref gyda chi, gwnewch eich gardd yn addas ar gyfer bywyd gwyllt a dangoswch i'ch ffrindiau a'ch cymdogion beth y gallant ei wneud yn eu gerddi nhw.
Na ellir ei ad-dalu
Archebwch ar-lein YMA