Llwybr Goleuadau Nadolig - Addas i'r Synhwyrau 

2 Rhagfyr | 9 Rhagfyr | 16 Rhagfyr 2026

5:00pm - 9:00pm

Dewch i fwynhau Hud y Nadolig ym Mharc Gwledig Pen-bre

Dewch i fwynhau hud y Nadolig wrth i Lwybr Goleuadau'r Nadolig ddychwelyd i Barc Gwledig Pen-bre ym mis Rhagfyr.

Eleni, mae'r digwyddiad yn cynnwys llwybr rhyngweithiol newydd cyffrous a fydd yn rhoi naws Nadoligaidd hyfryd i'r ymwelwyr drwy'r parc. Gallwch fwynhau arddangosfeydd disglair, gweld golygfeydd hudolus y Nadolig a mwynhau'r naws o dan y sêr.

Mae Llwybr Goleuadau'r Nadolig yn llawer mwy na thaith gerdded drwy'r goedwig. Dewch draw i fwynhau cerddoriaeth fyw, stondinau marchnad Nadoligaidd, bwyd a diod blasus, reidiau ffair i'r teulu a'n llethrau tiwbiau a thobogan poblogaidd sy'n cael eu cynnal drwy gydol y digwyddiad.

P'un a ydych chi'n dechrau traddodiad Nadolig newydd neu'n dychwelyd am ymweliad Nadoligaidd arall, mae'r digwyddiad hudolus hwn yn sicr o greu atgofion arbennig i'r teulu cyfan.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiadau: 2Rhagfyr, 9 Rhagfyr a 16 Rhagfyr 2026
Amser: 5:00pm - 9:00pm
Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre

Beth mae hyn yn ei gynnwys?

  • Llai o oleuadau'n fflachio
  • Cerddoriaeth feddalach
  • Goleuadau Nadoligaidd
  • Cerddoriaeth fyw dawel
  • Stondinau marchnad Nadolig
  • Bwyd a diod tymhorol
  • Reidiau ffair
  • Tiwbio a Thoboganio

Gwybodaeth Archebu

Argymhellir archebu ymlaen llaw yn gryf: Ymweliadau Siôn Corn, toboganau trac cyflym a thiwbio.

Cynghorir chi i dalu am barcio ymlaen llaw cyn i chi gyrraedd y parc (dim ffi i ddeiliaid trwyddedau parcio)

Ymunwch â ni am brofiad Nadoligaidd bythgofiadwy a mwynhau hud y Nadolig ym Mharc Gwledig Pen-bre.