Bioamrywiaeth
Ystyr bioamrywiaeth yn syml yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae'n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw a'r ecosystemau y maent yn dibynnu arnynt. Mae bioamrywiaeth ym mhobman: mewn gerddi, caeau, perthi, afonydd, mynyddoedd, clogwyni ac yn y môr.

Yn lleol, mae bioamrywiaeth yn dylanwadu'n fawr ar gymeriad ein tirwedd. Mae Sir Gaerfyrddin yn enwog am ei harfordir godidog, ei haberoedd tawel, ei chymoedd coediog serth a'i mynyddoedd a'i bryniau garw. Mae llawer o weddill y sir yn glytwaith o diroedd coediog a chaeau, gyda chloddiau yn eu ffinio sy'n aml o bwysigrwydd hanesyddol. Hefyd mae'r môr a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Gaerfyrddin yn gyforiog ei rywogaethau, gyda rhai o'r rhain yn hynod o bwysig yn economaidd.

Mae harddwch naturiol y sir hon yn ffactor pwysig y mae'r diwydiannau twristiaeth a hamdden lleol yn dibynnu arnynt. Felly mae bioamrywiaeth yn hanfodol i les corfforol, economaidd ac ysbrydol pawb sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.

Chwilen draethlin

Mae traeth Cefn Sidan yn gartref i chwilen y draethlin sy’n brin ac mewn perygl – ac yn un o dri safle yn unig sydd ar ôl yng Nghymru i gynnwys yr infertebrat prin hwn. Mae wedi darfod ar naw twyni Cymreig ers 1980, ac mae bellach wedi darfod yn Lloegr yn bennaf oherwydd glanhau mecanyddol.