Gwarchodfa Natur Leol Twyni a Morfa Pen-bre

Mae’r system hon o 270 hectar o dwyni tywod a morfa heli i’w chael rhwng Parc Gwledig Pen-bre a Phorth Tywyn ac mae’n gartref i lawer o anifeiliaid a phlanhigion unigryw a phwysig. Caiff y warchodfa ei diogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gadwraeth Arbennig a Safle Ramsar.

System fawr o dwyni sydd wrthi’n cael ei hadeiladu, nodwedd brin, lle gallwch weld yr holl wahanol fathau o dwyni tywod gan gynnwys twyni embryo, twyni melyn mawr lled-sefydlog a’r twyni llwyd mwy  sefydlog sy’n ffurfio glaswelltir twyni. Mae'n enwog am amrywiaeth ei phlanhigion ac mae'n gartref i lawer o rywogaethau prin gan gynnwys Pansi'r Twyni, Pryf y Tywod, Pig yr Aran Waedlyd, Briallu'r Hwyr Persawrus a Llysiau'r Arennau.

Mae’r pryfetach sy’n dibynnu ar yr amrywiaeth hon o blanhigion yn unigryw hefyd a gallwch ddod o hyd i’r glöyn byw Glas Bach gyda Band brown. Mae’r Morfa Heli, sydd ddim yn cael ei bori, yn gartref i Lafant y Môr sy’n llenwi’r Morfa â blodau porffor ym mis Awst. Mae Sampier y Geifr a Serenllys y Morfa hefyd yn blodeuo yn ddiweddarach yn yr haf yn sioe felyn.

Mae gyr o wartheg yn pori'r twyni tywod i gadw llystyfiant diangen dan reolaeth.

Gwarchodfa Natur Leol Doc y Gogledd

Mae’n cael ei gwarchod oherwydd ei bod yn gynefin twyni tywod prin gydag amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw yn y twyni wedi addasu'n arbennig i wrthsefyll yr amodau garw. Yn yr haf mae'r twyni tywod yn boeth ac yn sych ond yn y gaeaf maent yn cael eu chwythu gan y gwynt a’r heli o’r môr.

Mae planhigion lliwgar yn addurno glaswelltir y twyni yn y gwanwyn fel y briwydd melyn, clust y gath, y trilliw a’r banadl cyffredin parasitig tra bod celyn y môr a’r bengaled fwyaf i’w gweld ar dir toredig. Mae creaduriaid di-asgwrn-cefn arbennig y twyni tywod yn cynnwys rhywogaethau sy’n cael eu cysylltu’n fwy aml â hinsawdd gynhesach ymhellach i’r de, er enghraifft, mae’r ‘falwen bryn tywod’ yn tarddu o Fôr y Canoldir ac yma mae man mwyaf gogleddol ei dosbarthiad yn y byd. Yn yr haf gwelir llawer ohonynt yn glynu wrth goesau planhigion er mwyn osgoi'r tywod poeth.

Gwarchodfeydd Natur Lleol y Pwll Lludw a Merllyn y Pwll

Mae pellter byr rhwng y ddwy Warchodfa Natur Leol yma ond gellir eu hystyried fel un.

Fe'i defnyddid o’r blaen fel morlynnoedd i setlo lludw tanwydd maluriedig o Orsaf Bŵer Bae Caerfyrddin sydd bellach wedi cael ei dymchwel.

Mae’r Pwll Lludw yn ardal bwysig ar gyfer adar y gwlyptir sy’n bridio ac mae'r ardal o frwyn o amgylch y pwll yn cynnig lloches i adar sy'n bridio ac yn gorffwys. Mae’r alarch mud, yr hwyaden wyllt, yr hwyaden gopog, y gwyach fach, y gwyach fawr gopog, cwtieir a’r iâr ddŵr i gyd yn bridio yma. Mae telor y gors, telor yr hesg a bras y gors yn magu yn y gwelyau cyrs, tra bod telor Cetti prin i’w gael yn y ffen helyg. Ceir rhegen ddŵr a hwyaid pengoch yn y gaeaf

Mae Merllyn y Pwll yn ffurfio cymuned coetir gwlyb a chymuned ffen sy'n arbennig o gyfoethog o ran planhigion. Un nodwedd ddiddorol o'r safle yw presenoldeb rhywogaethau sy'n caru calch a rhai sy'n casáu calch yn tyfu'n agos at ei gilydd. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y lludw tanwydd maluriedig yn alcalïaidd iawn i ddechrau. Ceir chwe rhywogaeth o frwyn gan gynnwys y frwynen flaenfain leol yma. Mae blodau’r brain, y llwyn llac porffor a thegeirian y gors deheuol yn tyfu ynghyd â'r cyrs cyffredin. Mae ardaloedd mwy agored o ffen wedi'u gorchuddio â hesg, fel hesgen y llwynog, tra ceir hefyd boblogaethau o'r canrhi leiaf a gwlithlys. O fewn y coetir bedw-helyg mae planhigion sy’n hoff o dir asidig i'w gweld fel y rhedynen gyfrdwy a rhedyn lemwn persawrus.

Gwarchodfa Natur Leol Morfa Berwig

Gweddill bychan yw’r warchodfa natur 15 hectar hon o’r hyn a fu unwaith yn forfeydd heli helaeth a glaswelltir corsiog oedd yn ffurfio’r arfordir o Gasllwchwr i Borth Tywyn. Mae diwydiant a draenio’r ardal wedi lleihau’r cynefin unigryw hwn yn sylweddol.

Mae Gwarchodfa Natur Leol Morfa Berwig yn y Bynea yn gyfuniad o gynefinoedd gwlyptir a thir llwyd gyda ffosydd a phyllau, darnau helaeth o goetir gwlyb, glaswelltir corsiog a dŵr agored. Mae’r Afon Goch yn gartref i boblogaeth o lygod pengrwn y dŵr prin.

Mae’r warchodfa’n wych ar gyfer gwylio adar ac mae arolygon wedi canfod bod y safle’n cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth o greaduriaid di-asgwrn-cefn, gan gynnwys gwenyn anghyffredin a gweision y neidr sy’n creu bwrlwm ar y safle yn yr haf.

Barc Natur Ynysdawela

Mae gan Barc Natur Ynysdawela nifer o wahanol gynefinoedd. Mae rhai ohonynt yn gysylltiedig â'r defnydd ohono yn y gorffennol fel fferm a phwll glo.

Yn ogystal â'r bywyd gwyllt, mae'r cynefinoedd sydd yma'n fuddiol i bobl mewn llawer o ffyrdd.

Mae prysgoed wedi ffurfio ar weddillion yr hen domen lo. Mae hyn wedi:

  • sefydlogi'r gweddillion a helpu'r pridd i ddatblygu
  • creu cynefin cyfoethog i infertebratau ac adar

Mae'r afon yn gynefin i rywogaethau pwysig o bysgod a bywyd gwyllt arall.

Mae'r glaswelltiroedd yn Ynysdawela yn gynefin i lawer o blanhigion ac anifeiliaid.

Bioamrywiaeth

Dysgwch fwy am fioamrywiaeth yma