Maes Chwarae Antur
Darganfod Antur




Maes Chwarae Antur
Wedi'u cuddio yn y goedwig, mae dau faes chwarae antur mawr. Mae'r meysydd chwarae sydd newydd eu hadnewyddu yn fwy hygyrch i bawb ac yn cynnwys offer hygyrch gan gynnwys siglen i'r anabl.
Mae'r maes chwarae hefyd yn cynnig twnnel synhwyraidd, sy'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.
Ni chaniateir cŵn yn y parciau Antur, ond mae meinciau picnic i chi ymlacio a mwynhau awyrgylch y parc tra bod y plant yn rhyddhau eu hegni.
Mae meinciau picnic hefyd o fewn y meysydd chwarae
Rhaid i blant gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol bob amser.
Heb anghofio y llong môr-leidr newydd sydd wedi ei lleoli tu allan i fwyty Yr Orsaf