Llogi Beiciau
Darganfod llefydd newydd
Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau ar hyn o bryd.
Llogi Beiciau
Yma yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre gallwch logi beiciau er mwyn rhyfeddu ar dros 500 erw o brydferthwch. Mae yna lwybrau o gwmpas y parc a thrwy'r coetiroedd.
Os hoffech fynd ar daith hwy, gallwch ymuno â Llwybr Arfordirol y Mileniwm.
Archebwch YMA ar gyfer Llogi Beic Teulu
Beiciau Teulu 6+ oed
Beicio i bawb
Mae beiciau addasol ar gael i'w llogi o'r Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu ymlaen llaw cyn cyrraedd gan fod gennym nifer gyfyngedig o feiciau.
Mae'r staff sy'n cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Y sesiynau llogi beiciau yw £ 8.50 y pen am hyd at 2 awr.
Trac Pwmpio
Mae'r trac pwmpio yn gylchdaith o roleri, troeon ar oledd a nodweddion sy'n creu momentwm wrth i chi feicio neu fyrddau sgrialu drwy "bwmpio" sef symud y corff i fyny ac i lawr, yn hytrach na phedalu neu wthio.
O feiciau mynydd i BMX a byrddau sgrialu, mae'r trac pwmpio yn gae chwarae ar gyfer pob math o olwynion. Drwy gyfuno twmpathau i neidio drostynt a throeon maent yn hygyrch i bawb.
Amodau defnyddio - Beiciwch yn ddiogel a byddwch yn ddiogel!
(DARLLENWCH Y RHEOLAU WRTH FYNEDFA'R TRAC CYN DEFNYDDIO)
Efallai yr hoffech chi....
Prisiau llogi beiciau
Beicio | Oedolion | Iau |
---|---|---|
Hanner Dydd 10yb - 1.30 yn | £15.00 | £10.50 |
Hanner Dydd 2yn - 5.30yn | £15.00 | £10.50 |
Diwrnod llawn 10.30yb - 5.30 yn | £21.00 | £14.00 |
Trelar i blant (codir ffi i'w logi) | £7.00 | |
Beic teulu | £ 15.00 yr awr / y teulu | |
Beicio i Bawb | £8.50 yr awr | |
Beic addasol | £8.50 yr awr |
Beiciau addasol