Llwybr Goleuadau Nadolig
Llwybr Goleuadau Nadolig
2 - 6 Rhagfyr | 9 - 13 Rhagfyr | 16 - 20 Rhagfyr 2026
5:00pm - 9:00pm
AM DDIM i fynychu (mae ffi parcio yn berthnasol
Dewch i fwynhau Hud y Nadolig ym Mharc Gwledig Pen-bre
Dewch i fwynhau hud y Nadolig wrth i Lwybr Goleuadau'r Nadolig ddychwelyd i Barc Gwledig Pen-bre ym mis Rhagfyr.
Eleni, mae'r digwyddiad yn cynnwys llwybr rhyngweithiol newydd cyffrous a fydd yn rhoi naws Nadoligaidd hyfryd i'r ymwelwyr drwy'r parc. Gallwch fwynhau arddangosfeydd disglair, gweld golygfeydd hudolus y Nadolig a mwynhau'r naws o dan y sêr.
Mae Llwybr Goleuadau'r Nadolig yn llawer mwy na thaith gerdded drwy'r goedwig. Dewch draw i fwynhau cerddoriaeth fyw, stondinau marchnad Nadoligaidd, bwyd a diod blasus, reidiau ffair i'r teulu a'n llethrau tiwbiau a thobogan poblogaidd sy'n cael eu cynnal drwy gydol y digwyddiad.
P'un a ydych chi'n dechrau traddodiad Nadolig newydd neu'n dychwelyd am ymweliad Nadoligaidd arall, mae'r digwyddiad hudolus hwn yn sicr o greu atgofion arbennig i'r teulu cyfan.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiadau: 2-6 Rhagfyr, 9-13 Rhagfyr a 16-20 Rhagfyr 2026
Amser: 5:00pm - 9:00pm
Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre
Beth mae hyn yn ei gynnwys?
- Llwybr Goleuadau'r Nadolig rhyngweithiol newydd
- Goleuadau Nadoligaidd
- Cerddoriaeth Fyw ac Adloniant
- Stondinau marchnad Nadolig
- Bwyd a diod tymhorol
- Reidiau ffair
- Tiwbio a Thoboganio
Gwybodaeth Archebu
Argymhellir archebu ymlaen llaw yn gryf: Ymweliadau Siôn Corn, toboganau trac cyflym a thiwbio.
Cynghorir chi i dalu am barcio ymlaen llaw cyn i chi gyrraedd y parc (dim ffi i ddeiliaid trwyddedau parcio)
Ymunwch â ni am brofiad Nadoligaidd bythgofiadwy a mwynhau hud y Nadolig ym Mharc Gwledig Pen-bre.
