Tiwbio a Tobogans
Tiwbio a Tobogans gyda'r Nos
Hwyl Nadoligaidd i'r Teulu ar y llethrau
Byddwch yn barod i lithro i ysbryd y Nadolig gyda'n sesiynau Tiwbio a Thoboganio poblogaidd ym Mharc Gwledig Pen-bre.
P'un a ydych chi'n rasio yn erbyn ffrindiau, yn herio aelodau o'r teulu neu'n mwynhau gwefr y llethrau, mae tiwbio a thoboganio yn sicr o roi gwên ar wyneb pawb.
Gan weithredu ochr yn ochr â Llwybr Goleuadau'r Nadolig, gall ymwelwyr fwynhau cyffro'r llethrau o dan oleuadau Nadoligaidd, gan greu profiad hudolus y gaeaf hwn.
Yn addas i blant ac oedolion fel ei gilydd, mae'r atyniad Nadoligaidd hwn yn berffaith ar gyfer ychwanegu ychydig o antur i ddathliadau'r Nadolig.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiadau: 2-6 Rhagfyr, 9-13 Rhagfyr a 16-20 Rhagfyr 2026
Amser: 5:00pm - 9:00pm
Lleoliad: Y Llethr Sgïo, Parc Gwledig Pen-bre
Beth i'w ddisgwyl
- Rhediadau tiwbio cyffrous
- Reidiau toboganio cyffrous
- Hwyl i blant ac oedolion
- Awyrgylch Nadoligaidd
- Sesiynau gyda'r nos o dan oleuadau'r Nadolig
Gwybodaeth Archebu
Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ac argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw.
Tiwbio
Bydd angen i chi archebu Tiwbio ymlaen llaw.
Pris - £8.00 y pen
Oedran isafswm 6 oed
......................................
Tobogan
Nid oes angen archebu tobogans ymlaen llaw.
Talu yn nerbynfa'r Ganolfan Sgïo.
Pris: 1 reid - £4.00
Oedran isafswm 3 oed
Rhaid i blant 3 - 8 oed reidio gydag oedolyn
NEU
Archebwch slot 'FAST-TRACK' rhwng 4pm - 6pm
Peidiwch ag anghofio talu ymlaen llaw am eich parcio cyn i chi gyrraedd
Nid yw gweithgareddau a pharcio yn ad-daladwy
Dewch yng nghwmni eich ffrindiau a'ch teulu a mwynhau un o atyniadau Nadolig mwyaf cyffrous y parc.