Tiwbio gyda'r Nos

 

Hwyl Nadoligaidd i'r Teulu ar y llethrau

Byddwch yn barod i lithro i ysbryd y Nadolig gyda'n sesiynau Tiwbio  poblogaidd ym Mharc Gwledig Pen-bre.

P'un a ydych chi'n rasio yn erbyn ffrindiau, yn herio aelodau o'r teulu neu'n mwynhau gwefr y llethrau, mae tiwbio yn sicr o roi gwên ar wyneb pawb.

Gan weithredu ochr yn ochr â Llwybr Goleuadau'r Nadolig, gall ymwelwyr fwynhau cyffro'r llethrau o dan oleuadau Nadoligaidd, gan greu profiad hudolus y gaeaf hwn.

Yn addas i blant ac oedolion fel ei gilydd, mae'r atyniad Nadoligaidd hwn yn berffaith ar gyfer ychwanegu ychydig o antur i ddathliadau'r Nadolig.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiadau: 2-6 Rhagfyr, 9-13 Rhagfyr a 16-20 Rhagfyr 2026
Amser: 5:00pm - 9:00pm
Lleoliad: Y Llethr Sgïo, Parc Gwledig Pen-bre

Beth i'w ddisgwyl

  • Rhediadau tiwbio cyffrous
  • Hwyl i blant ac oedolion
  • Awyrgylch Nadoligaidd 
  • Sesiynau gyda'r nos o dan oleuadau'r Nadolig

Gwybodaeth Archebu

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ac argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw. 

Tiwbio
Bydd angen i chi archebu Tiwbio ymlaen llaw.
Pris - £8.00 y pen
Oedran isafswm 6 oed
......................................

Peidiwch ag anghofio talu ymlaen llaw am eich parcio cyn i chi gyrraedd
Nid yw gweithgareddau a pharcio yn ad-daladwy

Dewch yng nghwmni eich ffrindiau a'ch teulu a mwynhau un o atyniadau Nadolig mwyaf cyffrous y parc.