Llwybrau a Theithiau Cerdded
Darganfod Natur
Llwybr Arth
Ar y ffordd i ddod o hyd i'r arth, bydd tasgau y bydd angen i chi eu gwneud, a allwch chi gopïo'r hyn y mae'r ffrindiau anifeiliaid yn ei wneud?
Digon o chwarae ar y ffordd i ffeindio Brychan yr Arth!
Teithiau Cerdded Natur
Mae gan Barc Gwledig Pen-bre 500 erw o barc a choetir i archwilio ac o fewn y gofod hwn mae gennym 3 llwybr sydd wedi'u nodi allan a fydd yn eich galluogi i archwilio a dysgu am ein coetiroedd, pyllau a phlanhigion. Rydym wedi nodi meysydd o ddiddordeb isod ar hyd pob llwybr y gallwch chi edrych amdano yn ystod eich teithiau cerdded.
Gallwch lawrlwytho ac argraffu taflen wybodaeth ar gyfer pob llwybr ynghyd â map a ddangosodd leoliadau a llwybrau'r llwybr.
Realiti Estynedig Hanesyddol
Cerddediad planhigion
Mewn canrifoedd cynharach byddai pobl yn mynd allan i'r caeau a'r coedwigoedd i chwilio am flodau oherwydd eu bod yn ddefnyddiol yn fwy nag am eu prydferthwch, gan fod y rhan fwyaf o feddyginiaethau yn cael eu gwneud o blanhigion. Roedd dail a gwreiddiau blodau gwyllt yn darparu cyflenwad bwyd naturiol; byddai petalau a ffrwythau yn cael eu gwasgu i wneud llifynnau; ac mewn oes ofergoelus credai pobl bod llawer o blanhigion yn eu hamddiffyn rhag pob math o ddrygioni.
Cerddediad coedwig
Mae coetir y Parc Gwledig yn un o'r prif atyniadau sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn lle gallwch gerdded, beicio, cyfeiriannu, mynd am bicnic ac ati. Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rheoli'r parc ac maent hefyd yn rhoi cryn bwysigrwydd ar harddwch a gwerth cadwraeth y coetir.
Cerddediad pwll
Mae dŵr croyw yn bwysig ar gyfer pob agwedd ar fywyd gwyllt. Cafodd y rhwydwaith o byllau ym Mharc Gwledig Pen-bre ei ymestyn yn 2014-15 mewn cydweithrediad â'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid.
Cyfeiriannu
Parc Gwledig Pen-bre yn fan delfrydol i ddysgu sgiliau defnyddio map a chwmpawd. Mae'r cyrsiau'n darparu ar gyfer pobl o bob gallu. Mae'r cwrs Cyfeiriannu'n cynnig tirweddau hardd, hanes a bywyd gwyllt yn ogystal ag ystod eang o gyfleusterau.Mae ganddo themâu chwedlonol ategol sy'n cydblethu diwylliant, natur ac antur, ac mae wedi'i fwriadu ar gyfer cyfeirianwyr profiadol a'r sawl sy'n dechrau arni. Dylai dechreuwyr ddarllen yr adrannau esboniadol dilynol, ac yna dewis cwrs hawdd i roi cynnig arno. Mae cyfeiriannu yn weithgaredd hamdden pleserus sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen map. Gellir ei wneud hefyd fel camp gystadleuol fel y mae'r adran 'heriau' yn dangos